Fel rhan o wasanaeth S4C, rydym yn cynnig rhaglenni newyddion a materion cyfoes sy’n eang ac yn amrywiol.

Newyddion

Rydym yn cynnig bwletinau newyddion cyson yn ystod y dydd (dydd Llun i ddydd Gwener) – gan gynnwys un bwletin arbennig i gynulleidfa iau am 1700 (Ffeil)

Mae prif raglen newyddion dyddiol S4C, Newyddion 9, yn cael ei darlledu am 2100 o nos Lun i nos Wener. Mae’n edrych ar straeon mwyaf Cymru, y DU, a’r byd mewn ffordd glir ac unigryw.

Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu cynhyrchu gan adran newyddion BBC Cymru yn seiliedig ar gyfeiriad golygyddol sy’n cael ei drafod yn rheolaidd rhwng BBC Cymru ac S4C.

Materion cyfoes

Mae cyfres Y Byd ar Bedwar yn rhoi sylw manwl i straeon o Gymru a’r tu hwnt gan gynnwys newyddiaduraeth wreiddiol a rhaglenni sy’n edrych yn ddyfnach ar ddatblygiadau newyddion gartref ac yn rhyngwladol.

Cyfres materion cyfoes i bobl ifanc gan bobl ifanc yw Hacio. Mae’r gyfres yn edrych ar ystod o faterion sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc drwy eu llygaid eu hunain.

Mae’r cyfresi hyn yn cael eu cynhyrchu gan ITV Cymru yn seiliedig ar gyfeiriad golygyddol sy’n cael ei drafod yn rheolaidd rhwng ITV Cymru ac S4C.

Mae nifer helaeth o raglenni materion cyfoes unigol hefyd yn cael eu comisiynu gan cwmnïau cynhyrchu annibynnol. Er enghraifft:

Cam-drin Plant: Y Gwir sy’n Lladd (2016) – Stori ymdrechion i ddatgelu troseddau cam-drin plant mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru, drwy lygaid newyddiadurwr fu’n gweithio ar y stori am ddegawdau. Mae’n gynhyrchiad gan Cwmni Da.

Yr Achos (2017) – I’w darlledu ym mis Mehefin 2017, mae’r rhaglen yn edrych ar hanes cam-drin plant yng Nghymru. Mae’n gynhyrchiad gan gwmni Double Agent Films.

Gwleidyddol

O’r Senedd yw rhaglen wleidyddol newydd S4C sy’n crynhoi straeon gwleidyddol yr wythnos. Mae’n cynnwys y prif ddatblygiadau o seneddau Bae Caerdydd a San Steffan bob nos Fawrth.

Mae’r cyhoedd yn cael eu cyfle nhw i drafod yn uniongyrchol â’r gwleidyddion ar raglen Pawb a’i Farn. Mae’r rhaglen banel hon yn ymdrin â phrif faterion y dydd, gan alluogi’r pleidiau, gwesteion annibynnol a phobl gyffredin i ddweud eu dweud.

Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru yn seiliedig ar gyfeiriad golygyddol sy’n cael ei drafod yn rheolaidd rhwng BBC Cymru ac S4C.

Sylw i etholiadau:

Yn ystod cyfnod cyn etholiadau cenedlaethol, mae rhagor o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer rhaglenni gwleidyddol er mwyn sicrhau bod y prif ddadleuon etholiadol yn cael eu gwyntyllu’n gyhoeddus yn y Gymraeg ar S4C. Er enghraifft, cyn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar 8 Mehefin, mae’r rhaglenni ychwanegol canlynol wedi’u hamserlenni:

        2 Pawb a’i Farn – rhaglenni etholiadol arbennig. (BBC Cymru)

        3 Y Ras i’r Senedd – rhaglenni sy’n edrych yn fanylach ar y prif bleidiau cyn yr etholiad (ITV Cymru).

        Hacio’n Holi – rhaglen drafod etholiadol i bobl ifanc (ITV Cymru).

Yn ogystal, fe fydd rhaglen ganlyniadau llawn drwy noson y cyfrif ar S4C, ynghyd â bwletinau/rhaglenni estynedig ddydd Gwener 9 Mehefin.